Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 17 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 12:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Nick Ramsay (Cadeirydd) Mick Antoniw Byron Davies Keith Davies Alun Ffred Jones Eluned Parrott Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Minister for Economy, Science and Transport Tim James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru Rob Hunter, Llywodraeth Cymru Mark Langman, Network Rail James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Olga Lewis (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC, Rhun ap Iorwerth AC a David Rees AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2 Ymchwiliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau (sesiwn dystiolaeth) (9.40-10.20)
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Network Rail.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth (10.30-12.30)
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
2.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
Economi:
- Cynigodd y Gweinidog roi diweddariad bob chwe mis ar gynnydd yn erbyn ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu, a fydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am nifer y swyddi a gaiff eu creu, eu diogelu a’u cynorthwyo gan yr adran, a gwybodaeth am nifer y swyddi mewnfuddsoddi a gyflawnir gan yr adran mewn gwirionedd (yn hytrach na ffigurau ehangach adran Masnach a Buddsoddi Llywodraeth y DU, sy’n seiliedig ar gyhoeddiadau).
- Cynigodd y Gweinidog ddarparu nodyn ynghylch sut yr aeth ati i ystyried effeithiau’r polisi sectorau ar gydraddoldeb, yn enwedig o ran anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sectorau blaenoriaeth.
- Cynigodd y Gweinidog ystyried ymhellach y gwelliannau y gallai ei hadran eu gwneud o ran Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, gan gynnwys nodyn ar ddull gweithredu’r adran mewn perthynas ag asesu effaith ei gweithredoedd ar gydraddoldeb a datblygu cynaliadwy.
Trafnidiaeth:
- Sut y mae dyraniadau cyfalaf ar gyfer teithio cynaliadwy yn berthnasol i’r broses o gyflwyno’r Bil Teithio Llesol.
- Pan nodwyd y byddai’r arian ar gyfer trafnidiaeth gymunedol yn dyblu i bob pwrpas, nodi’n glir a yw hynny’n cynnwys yr arian a ddyrannwyd yn flaenorol i’r Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:
EBC(4)-38-13(p5) - Llythyr gan Jocelyn Davies AC at Nick Ramsay ac Atodiad (e)
EBC(4)-38-13(p6) - Diweddariadau Chwe Mis - Blaenoriaethau ar gyfer y Rheilffyrdd, yr M4, Blaenoriaethau ac Ymrwymiadau Trafnidiaeth